Page last updated at 13:23 GMT, Tuesday, 23 October 2012 14:23 UK

Cwestiynau i'r prif weinidog

Mynegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei gydymdeimlad dwys â'r teuluoedd sydd wedi ei heffeithio gan y digwyddiadau yng Nghaerdydd a Phrestatyn dros y penwythnos wrth wynebu amryw o gwestiynau gan aelodau'r cynulliad ar 23 Hydref 2012.

"Rydw i wedi fy syfrdanu gan y digwyddiadau yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf ac yn wir ym Mhrestatyn," meddai Mr Jones.

Dywedodd eu bod yn "gyfres o ddigwyddiadau hynod ysgytwol".

"Dymuna'r llywodraeth hon gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i'r rhai a gyffyrddwyd gan y digwyddiadau.

"Fe hoffwn i i'r cofnod ddangos fy niolch i'r gwasanaethau brys fu'n ymateb i'r sefyllfa."

Mynegodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn ogystal ag Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies eu cydymdeimlad.

"Yn anffodus, mae Cymru wedi bod yn arwain y penawdau am y rhesymau anghywir," meddai Mr Davies.

Ychwanegodd bod "llawer ganddom ni i fod yn falch ohono" yng Nghymru, a chanmolodd ysbryd cymunedol y wlad.

Yn ogystal â chwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau, atebodd Mr Jones gwestiynau ar gampws newydd Prifysgol Abertawe, cyllideb llywodraeth leol a'r cyffur mephodrome.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific