Page last updated at 16:32 GMT, Wednesday, 17 October 2012 17:32 UK

Dadl ar y polisi egni

Mae costau cynyddol ynni a'r tywydd eithafol diweddar wedi dod â heriau newid hinsawdd i garreg y drws yn llythrennol, rhybuddiodd cadeirydd y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd ar 17 Hydref 2012.

Fe wnaeth Dafydd Elis-Thomas AC y gosodiad wrth arwain y ddadl ar adroddiad y pwyllgor i bolisi egni a chynllunio.

Mae'r adroddiad wedi gwneud 77 o argymhellion ac mae llywodraeth Cymru wedi derbyn 71 ohonynt yn rhannol neu yn llawn.

Pwysleisiodd AC Plaid Cymru Llyr Huws Griffith bod yn rhaid "creu system gynllunio hwylus sy'n ymateb i geisiadau datblygu yn well" gan nodi ei fod yn "hyderus bod yr argymhellion yn mynd tuag at hynny".

Manteisiodd yr AC Ceidwadol Antoinette Sandbach ar y cyfle i feirniadu'r llywodraeth am ddiffyg arweiniad ym maes polisi egni.

Wrth ymateb i'r ddadl fe wnaeth y gweinidog amgylchedd groesawu'r adroddiad gan ddweud ei bod hi'n bwysig symud ymlaen i'r cyfeiriad sy'n cael ei nodi ynddo.

Bu John Griffiths AC yn dadlau yn erbyn honiad y pwyllgor fod melinau gwynt yn effeithio ar dwristiaeth, gan esbonio fod adroddiad wedi dangos yn glir nad hynny yw'r sefyllfa.

Nododd hefyd, wrth geisio lleddfu un arall o bryderon y pwyllgor, fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i wella trafnidiaeth i safleoedd melinau gwynt.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific