Mae darparu gwasanaeth Cymraeg i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ddementia yn holl bwysig i asesiad clinigol a'r driniaeth pwysleisiodd y gweinidog iechyd ar 17 Hydref 2012.
Rhybuddiodd Lesley Griffiths AC fod peryg na fyddai rhai sy'n siarad Saesneg hyd yn oed yn medru gwneud hynny wrth i'r salwch afael.
Amlinellodd y gweinidog iechyd ei hymrwymiad i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r salwch dementia wrth ymateb i ddadl fer gan AC Canol Caerdydd Jenny Rathbone.
Bu'r AC Llafur yn dadlau fod y cynnydd yn nifer yr achosion o ddementia yn golygu ei bod yn hollbwysig ailfeddwl am wasanaethau yn ogystal ag agweddau.
Fe wnaeth hefyd nodi y gall gwneud diagnosis ac asesiadau yn gynharach gadw pobl allan o'r ysbyty ac mae hynny'n eu galluogi i lunio'r trefniadau ar gyfer eu gofal tymor hir.
Yn ôl Ms Rathbone, mae ar bobl angen gwasanaethau amlddisgyblaethol, hyblyg a chost-effeithiol i'w cefnogi wrth i'w hanghenion newid.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend