Mae methiant llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged ei hun i wella safon tai cymdeithasol dros gyfnod o ddeng mlynedd yn achos gofid, cyfaddefodd y gweinidog tai ar 17 Hydref 2012.
Heriodd Llefarydd Tai y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black y gweinidog ar y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2012.
Dengys y ffigyrau taw dim ond 33% o dai cymdeithasol landlordiaid wedi eu cofrestri sydd wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Pan gafodd y safon ei lansio, y nod oedd i bob landlord cymdeithasol ei fabwysiadu erbyn diwedd 2012.
Fe wnaeth Mr Black atgoffa'r gweinidog iddo ddarogan ym mis Mehefin 2011 y byddai 78% o landlordiaid yn cyrraedd y safon o fewn yr amser penodedig, wrth iddo holi beth aeth o'i le yn y 14 mis yna.
Tra'i fod yn derbyn y siom gyda'r gwelliannau hyd yma, pwysleisiodd Huw Lewis AC na fyddai'r llywodraeth yn gollwng ei gafael ar yr ymrwymiad i wella safonau, "p'un ai bod y ffigyrau yn isel a'r landlordiaid yn datblygu a'u peidio".
Bu'n dadlau hefyd fod methiant penderfyniad llywodraeth Prydain i benderfynu a fydd Cymru yn gadael y Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai wedi amharu ar ddatblygiad y safon.
Fe wnaeth Mr Lewis hefyd ateb cwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys hybu datblygiad llenyddiaeth, adfywio canol trefi a chynlluniau ar gyfer gwaddol y gemau Olympaidd.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend