Page last updated at 13:23 GMT, Wednesday, 17 October 2012 14:23 UK

Cwestiynau amgylchedd

Wrth ateb cwestiynau ACau ar faterion sy'n ymwneud â'i adran ar 17 Hydref 2012, dywedodd y Gweinidog Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy John Griffiths ei fod yn "gobeithio cyhoeddi enw'r corff newydd wythnos nesaf".

Mae'r asiantaeth amgylcheddol newydd yn cael ei sefydlu trwy uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Wrth ymateb i gwestiwn gan AC Plaid Cymru Llyr Huws Gruffydd, dywedodd y gweinidog y byddai holl gyfrifoldebau'r tri chorff presennol yn cael eu trosglwyddo i'r corff newydd.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gyhoeddi enw'r corff newydd, wythnos nesaf gobeithio, ynghyd ag enwau aelodau'r bwrdd."

Mae Emyr Roberts eisoes wedi ei benodi fel Prif Weithredwr y corff newydd.

Atebodd Mr Griffiths nifer o gwestiynau eraill ar bynciau amrywiol gan gynnwys y broses gynllunio, parthau cadwraeth morol a'r morglawdd arfaethedig dros aber yr afon Hafren.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific