Page last updated at 12:31 GMT, Wednesday, 17 October 2012 13:31 UK

Pwyllgor Cyllid

Mae Prifysgol Caerdydd yn gryf ac yn barod i wynebu'r her yn sgil y toriadau i gyllideb llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, dywedodd yr Athro Hywel Thomas wrth aelodau'r Pwyllgor Cyllid ar 17 Hydref 2012.

Mae'r brifysgol eisoes yn edrych ar ddatblygu llinellau busnes er mwyn gwneud arian yn sgil sefyllfa ariannol y DU ac Ewrop.

Esboniodd yr Athro Thomas fod nifer o gwmnïau eisoes wedi eu creu yn y brifysgol yn cynnwys cwmni o'r ysgol beirianneg sy'n edrych ar ffonau symudol a'i batris.

Mae amgyffred pobl o'r brifysgol yn newid hefyd ac fe sylweddolodd yr Athro Thomas ar daith ddiweddar i China fod diwydiant yn ogystal â'r brifysgol am weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd.

Mynegwyd pryder serch hynny am y gostyngiad posib i'r gronfa ymchwil gan HEFCW wrth i'r athro ddisgrifio'r cyllid fel "sylfaen y tŷ".

"Oes oes unrhyw beryg fod hwnnw'n mynd i gael ei golli, mae'n ofid mawr i ni," dywedodd yr Athro Thomas, "dyma'r arian sylfaenol sy'n dod i mewn er mwyn rhoi lefel bendant o ymchwil dyfeisgar."

Roedd David Jones, Pennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy a John Graystone o Golegau Cymru hefyd yn rhoi tystiolaeth yn ogystal â Gwyn Jones o Gyngor Sir Ceredigion a Mark Owen o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific