Page last updated at 15:22 GMT, Tuesday, 16 October 2012 16:22 UK

Datganiad gan y gweinidog cymunedau

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau Carl Sargeant bod y llywodraeth wedi curo'r targedau osodwyd yn 2000 i leihau'r nifer o farwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau ffordd mewn datganiad ar 16 Hydref 2012.

"Mae'r ffeithiau'n siarad dros eu hunain," meddai gan ddweud bod "cyfraniad sylweddol wedi ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd".

"Mae'r nifer o bobol sydd wedi eu lladd neu eu niweidio'n ddifrifol wedi syrthio 46% a'r nifer o blant laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol wedi syrthio 63% yn seiliedig ar gyfartaledd 1994-98."

Roedd Mr Sargeant yn gwneud datganiad ar waith y llywodraeth ym maes diogelwch cymuned a chyflwyno pennod saith o'r rhaglen llywodraethu .

Yn ôl y llywodraeth, nod pennod saith y rhaglen yw: "gwneud ein cymunedau'n fwy diogel drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu (ac ofn troseddu), camddefnyddio sylweddau, a thanau a'u heffeithiau, yn ogystal â chydgysylltu argyfyngau'n effeithiol."

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific