Page last updated at 13:30 GMT, Tuesday, 16 October 2012 14:30 UK

Cwestiynau i'r prif weinidog

Bydd y brand Cymreig o addysg yn cael ei ddibrisio os yw'r honiadau o dderbyn gwaith is na'r safon gan fyfyrwyr tramor yn wir, rhybuddiodd arweinydd y Ceidwadwyr ar 16 Hydref 2012.

Lleisiodd Andrew RT Davies AC bryderon yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru i gyrsiau meistri busnes sy'n cael eu hastudio gan fyfyrwyr tramor.

Dywedodd ddarlithydd, sydd ddim yn cael ei enwi, fod pwysau gan awdurdodau prifysgol i sicrhau ffioedd gan fyfyrwyr o dramor yn golygu fod safonau rhai cyrsiau yn cael eu hisraddio.

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o dramor yn gyfrifol am 32% o incwm ffioedd prifysgolion.

Galwodd Mr Davies ar i draethodau estynedig o fewn y sector addysg uwch fod ar gael i bawb eu gweld.

Bu'n dadlau hefyd fod rhaid ymchwilio i bryderon y myfyrwyr a'r darlithwyr ar fyrder.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'r llywodraeth yn edrych ar y sefyllfa petai yna dystiolaeth i gefnogi'r honiad.

Yn ogystal â hyn fe atebodd Mr Jones gwestiynau ar ddiweithdra, tai fforddiadwy a'r memoranda cyd-ddealltwriaeth sy'n bodoli rhwng llywodraeth Cymru, llywodraeth Prydain a gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific