Page last updated at 11:00 GMT, Tuesday, 16 October 2012 12:00 UK

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Bydd y fideo o'r eitem hon yn ymddangos yma.

Fe glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dystiolaeth gan arbenigwr ar wariant cyhoeddus ac archwilydd cyffredinol y Deyrnas Unedig ar y bil archwilio cyhoeddus ar 16 Hydref 2012.

Pwrpas y bil yw moderneiddio'r broses o lywodraethu ac atebolrwydd o fewn y gwasanaeth cyfrifon cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro David Heald o Ysgol Fusnes Prifysgol Aberdeen, sy'n arbenigwr ar wariant cyhoeddus, cyfrifo sector cyhoeddus ac archwilio bod "y bil fel y mae yn sylfaenol wyro i'r cyfeiriad anghywir".

Dywedodd ei bod yn ymddangos fel bod Cymru'n bwriadu dilyn esiampl Lloegr a chreu pwyllgor gyda'r cyfrifoldeb o oruchwylio gwaith yr archwilydd cyffredinol.

Dywedodd yr athro y dylai'r archwilydd cyffredinol fod yn atebol i'r cynulliad yn gyffredinol ac nid i'r llywodraeth.

Dywedodd Rheolwr ac Archwilydd y Deyrnas Unedig Amyas Morse ei bod hi'n "bwysig iawn" bod pob aelod o'r system yn gwybod beth yw eu swyddogaeth a bod y ddeddfwriaeth arfaethedig bresennol yn "rhy amwys".

"Rhaid i chi gael rhywun sy'n gwneud y penderfyniadau ac rydw i'n meddwl mai'r archwilydd cyffredinol ddylai fod y person hwnnw.

"Rhaid i chi ei wneud e'n glir - mae yna benderfyniadau i fi a phenderfyniadau i'r bwrdd."

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific