Fe wnaeth y pwyllgor gyfarfod i gynnal ymgynghoriad ar y broses mae'r byrddau iechyd yn ei ddefnyddio wrth ad-drefnu gwasanaethau.
Roedd aelodau o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn rhoi tystiolaeth ar 11 Hydref 2012, gan gynnwys y Cadeirydd Chris Martin a'r Prif Weithredwr Trevor Burt.
Mae newidiadau wedi cael eu
cyhoeddi'n
barod gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n cynnwys cau adran achosion brys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli, yn ogystal â chau tri ysbyty cymunedol.
Dywedodd Mr Martin mai "diogelwch a chynaliadwyedd" ydi'r prif ystyriaethau sydd yn cymryd eu sylw fel rhan o'r broses ymgynghori.
Fe wnaeth ef honni bod 40% o welyau mewn ysbytai yn cael eu defnyddio gan bobl a allai gael eu gofalu amdanynt mewn mannau eraill, gan ychwanegu bod symud gwasanaethau o ysbytai i'r gymuned yn rhan o'u cynllun ar gyfer yr ad-drefnu.
Roedd aelodau o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd yn rhoi tystiolaeth, gan gynnwys Geoff Lang a oedd yn siarad ar ran y prif weithredwr.
Fe holodd AC Gorllewin Clwyd Darren Millar y panel ynglŷn â'r gwahaniaethau yn y ffordd mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynd ati i ymgynghori o'i gymharu â Betsi Cadwaladr, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen cofrestru o flaen llaw er mwyn medru mynychu cyfarfodydd yn y gogledd.
Dywedodd: "Mae nhw'n cynnal cyfarfodydd mae pawb yn rhydd i'w mynychu, dydych chi ddim.
"Mae nhw'n gyrru pobl i gyfarfodydd pobl eraill, dydych chi ddim.
"Mae eu dogfen ymgynghori nhw yn cynnwys opsiynau, tydi'ch un chi ddim," ychwanegodd.
Wrth ymateb, dywedodd Geoff Lang eu bod nhw'n dilyn canllawiau'r llywodraeth ac yn awyddus i sicrhau fod eu proses nhw o ymgynghori yn gadarn.
"Rydym ni'n trefnu cyfarfodydd ac yn hapus i dderbyn adborth gan bobl eraill," esboniodd Mr Lang.
"Rydym ni'n parchu'r ffaith eu bod nhw'n cynnal cyfarfodydd eu hunain."
Darllenwch hwn yn Saesneg.
|
Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
|
|
|
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend