Page last updated at 16:58 GMT, Thursday, 11 October 2012 17:58 UK

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Sesiwn y prynhawn

Roedd y pwyllgor yn parhau gyda'i ymgynghoriad ar y broses a ddefnyddir gan fyrddau iechyd lleol i ymgymghori ar i ad-drefnu gwasanaethau.

Yn rhoi tystiolaeth yn ystod y prynhawn roedd Ann Lloyd a Heather Eardley o Gymdeithas y Cleifion.

Dywedodd Ms Eardley, sef cyfarwyddwr prosiectau cenedlaethol y sefydliad, ei bod hi'n bwysig bod cleifion ac aelodau o'r cyhoedd yn teimlo eu bod nhw'n rhan o'r broses ymgynghoriad, a'u bod nhw ddim yn cael yr argraff bod yr ymgynghoriad yn digwydd wedi i'r penderfyniad gael ei wneud.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Ms Lloyd bod angen cydbwyso anghenion cleifion gyda'r arferion clinigol gorau, a dywedodd: "Gallwn ni ddim dewis gwasanaethau israddol o dan unrhyw amgylchiadau."

Fe wnaeth Ms Eardley a Ms Lloyd gytunno gyda chadeirydd y pwyllgor Mark Drakeford AC ei bod hi'n bwysig bod y broses o ymgynghori yn un barhaol yn hytrach na "rhywbeth sy'n digwydd o amgylch cyfres o gynigion".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific