Page last updated at 17:10 GMT, Wednesday, 10 October 2012 18:10 UK

Dadl fer: Bwrdd Cyflogau Amaethyddol

Wrth ymateb i ddadl fer ar y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar 10 Hydref 2012 dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies bod y bwrdd yn "offeryn pwysig i osod cyflogau a safonau yma yng Nghymru".

Dywedodd bod anghytuno rhwng llywodraeth Prydain a llywodraeth Cymru ar bwy sydd â'r hawl i benderfynu tynged y bwrdd sy'n penderfynu isafswm cyflog a thermau gweithio yn y diwydiant amaethyddol.

Mae llywodraeth Prydain wedi cynnig diddymu'r bwrdd ond dywedodd Mr Davies bod Cymru am ddilyn esiampl yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy gymryd camau i sicrhau parhad y bwrdd.

Yn ôl llywodraeth Prydain, mae'r bwrdd yn ymwneud â chyflogaeth ac felly nid yw'n fater wedi ei ddatganoli.

Mae llywodraeth Cymru'n dadlau ei fod yn llwyr wedi ei ddatganoli am ei fod ym maes amaeth.

Dywedodd y gweinidog y byddai'n cyfarfod â gweinidog o lywodraeth Prydain ar y mater ar 15 Hydref a'i fod yn "awyddus iawn i geisio datrys y mater yn gyfeillgar."

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific