Page last updated at 13:37 GMT, Wednesday, 10 October 2012 14:37 UK

Cwestiynau cyllid

Mae'n rhaid i lywodraeth Cymru fwrw 'mlaen gyda'i thrafodaethau â llywodraeth y DU ar bwerau benthig, cyfaddefodd y gweinidog cyllid ar 10 Hydref 2012.

Pwysleisiodd Jane Hutt AC fod cael pwerau benthig yn flaenoriaeth o hyd ond fod y cyfyngiadau a'r amgylchiadau yn anochel yn fater i lywodraeth y DU.

Mae'r Comisiwn Holtham wedi neud nifer o argymhellion ynghylch benthyca gan gynnwys uchafswm o £2biliwn ac fe ddisgrifiodd Ms Hutt hyn "fel cyngor da yn nhermau datblygu'r drafodaeth".

Rhybuddiodd Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y byddai cyfrifoldeb mawr ar y llywodraeth yn nhermau ad-dalu a gweithredu'r benthyciad arfaethedig.

Os ddaw cytundeb, galwodd AC Plaid Cymru Alun Ffred Jones am bwerau benthig ar lefel sy'n mynd i wneud gwahaniaeth ynghŷd â hyblygrwydd i'r llywodraeth "fenthyca o ble bynnag y mae hi mwyaf manteisiol i wneud hynny".

Yn ogystal â hyn fe wnaeth y gweinidog ateb cwestiynau ar y polisi caffael, tâl rhanbarthol a chredyd cynhwysol.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific