Page last updated at 13:33 GMT, Tuesday, 9 October 2012 14:33 UK

Cwestiynau i'r prif weinidog

Fe heriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol raglen Cymunedau'n Gyntaf y llywodraeth yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog ar 9 Hydref 2012.

"Un flynedd ar ddeg, £300 miliwn i wella sefyllfa'r cymunedau tlotaf .... ac yn ôl dadansoddi annibynnol, rydych chi wedi methu," meddai Kirsty Williams.

Fe ddyfynnodd ymateb nifer o sefydliadau - gan gynnwys sefydliad Rowntree - oedd yn cwestiynu llwyddiant y cynllun, gan ychwanegu nad oedd y prif weinidog wedi gallu "cynnig unrhyw ystadegau" i ddangos bod y cynllun yn llwyddiant.

Anghytunodd Carwyn Jones AC â Ms Williams, gan ddweud ei fod wedi ymweld â chymunedau ar draws Cymru sydd wedi cael budd gan raglen Cymunedau'n Gyntaf.

Yn ogystal ag ymateb i gwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau, fe atebodd Mr Jones gwestiynau ar brydau ysgol am ddim, yr economi a'r rhaglen i gyflwyno band llydan i orllewin Cymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific