Page last updated at 12:09 GMT, Thursday, 4 October 2012 13:09 UK

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Dylai llywodraeth Cymru edrych ar y dadansoddiad ôl-weithredol o gydraddoldeb rhyw yn y gyllideb a defnyddio'r gwersi wrth gynllunio'r gyllideb newydd, dywedodd Adele Baumgardt o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ar 4 Hydref 2012.

Ar hyn o bryd mae'r mater ond yn cael ei ystyried ar ôl cyflwyno'r gyllideb, ac mae hyn yn rhy hwyr rhybuddiodd Ms Baumgardt.

Dywedodd hefyd fod "yn nhermau cydraddoldeb rhyw, peth wmbreth o ddata ar gael ond fod yna brinder arbenigedd i edrych ar y data".

"Mae llawer i'w ddysgu wrth wledydd eraill sy'n bellach ar hyd y lon fel Canada a bwrdeistref Reykjavík," dywedodd Yr Athro Teresa Rees o Brifysgol Caerdydd.

Yn Reykjavík, mae nhw wedi darganfod fod problemau digartrefedd, diweithdra ac iechyd gwael yn ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol o anghydraddoldeb.

Pwysleisiodd Ms Rees effeithiau pellgyrhaeddol anghydraddoldeb rhyw ac felly, mae'n hanfodol fod y llywodraeth yn mynd i'r afael â'r broblem.

Fe wnaeth Kate Bennett a Jamie Westcombe o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Sue Cohen o Grŵp Cyllidebu i Fenywod hefyd gyflwyno tystiolaeth ger bron y pwyllgor.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific