Page last updated at 17:50 GMT, Wednesday, 3 October 2012 18:50 UK

Dadl y Ceidwadwyr

Mae cynlluniau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i symud gofal dwys i fabanod newydd anedig i ogledd Lloegr yn golygu "gofal eilradd" i fabanod Cymru yn ôl y Ceidwadwyr.

Dywedodd AC y Ceidwadwyr Darren Millar ar 3 Hydref 2012 nad oedd ganddo "unrhyw wrthwynebiad" i drin rhai cleifion yn Lloegr.

Rhybyddiodd serch hynny y byddai symud gofal dwys arbenigol i fabanod newydd anedig i ysbyty Arrowe Park, Cilgwri yng ngogledd Lloegr yn golygu symud i gael "gofal eilradd".

"Os y gall Burnley a Blackburn gadw eu gwasanaethau, gall gogledd Cymru," meddai.

Yn ei adroddiad diweddar fe fynegodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc bryderon am lefelau staffio unedau gofal i fabanod newydd anedig ledled Cymru, gyda'r broblem ar ei gwaethaf yn y gogledd.

Mae 13 uned i fabanod newydd anedig yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae oddeutu 4,000 o fabis yn cael eu derbyn i'r unedau hyn bob blwyddyn; un o bob naw baban sy'n cael eu geni yng Nghymru.

Yn ôl Mr Millar, gallai gwasanaeth ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro gau, gan olygu taith o hyd at 45 munud yn hwy i gyrraedd yr ysbyty agosaf nesaf.

Pryder arall oedd y posibilrwydd o gau unedau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ysbyty Neville Hall ac Ysbyty Treforys.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams AC ei bod yn pryderu bod byrddau iechyd lleol yn gwneud penderfyniadau heb drafod â'i gilydd yn gyntaf.

Cynigodd ei phlaid welliant i gynnig y Ceidwadwyr yn galw am strategaeth i warchod gwasanaethau yng ngorllewin y wlad.

Gwrthododd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths AC ymateb i'r ddadl, gan y bydd unrhyw apêl i benderfyniadau'r byrddau iechyd yn dod ati hi.

Dywedodd "na fyddai'n addas" iddi wneud sylw.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo heb unrhyw welliant.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific