Methodd gwelliannau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddadl ar y bil ieithoedd swyddogol ar 3 Hydref 2012.
Dadleuodd AC y Ceidwadwyr Suzy Davies o blaid cyfieithu holl gofnodion y cynulliad gan gynnwys trafodaethau'r pwyllgorau.
Roedd Aled Roberts AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am sicrhau cyhoeddi cofnodion y cynulliad yn y Gymraeg a'r Saesneg ar yr un pryd.
Dywedodd cyn Lywydd y Cynulliad AC Dwyfor Meirionydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru y byddai hynny'n "ddwyieithrwydd anymarferol".
Mae cyfieithu cofnod y cynulliad wedi bod yn
bwnc llosg
wedi i'r comisiwn benderfynu peidio â chyfieithu'r trafod dros nos yn 2010.
Fe basiodd y bil yn unfrydol.
Mae'n ddeddf ar sut y dylai'r Cynulliad drin y Gymraeg a'r Saesneg gan nad yw'r sefydliad yn atebol i'r
mesur iaith
, basiwyd gan y cynulliad diwethaf.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend