Cyhuddodd y Ceidwadwyr y llywodraeth o "fethu â chyflawni ei haddewidion" wedi i'r gweinidog cyllid gyhoeddi manylion cylldeb 2013-14 ar 2 Hydref 2012.
Gofynodd llefarydd cyllid y blaid Paul Davies AC a oedd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi ei siomi gyda'r methiant, gan fod cyllideb y llynedd hefyd "ar gyfer twf a swyddi".
Dywedodd nad oedd cyd-weithio rhwng adrannau'r llywodraeth.
"Dydy'r llaw dde ddim yn gwybod beth mae'r llaw chwith yn ei wneud" meddai gan gyfeirio at daliadau o £12 miliwn ychwanegol i'r byrddau iechyd, er bod y llywodraeth wedi dweud na fyddai arian pellach ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Ms Hutt mai "cam-weinyddu" gan lywodraeth Prydain oedd yn gyfrifol am doriadau i gyllideb Cymru.
Ychwanegodd bod mwy o wariant y pen ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
Cyhoeddodd y gweinidog £175 miliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad cyfalaf yn ystod y ddwy flynedd nesaf i gefnogi prosiectau sy'n bwysig yn strategol ledled Cymru, gan honi y byddai hynny'n creu neu'n cefnogi hyd at 3,000 o swyddi, ac yn creu dros 800 o dai fforddiadwy.
Ond yn ôl Ieuan Wyn Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, "y gwir yw na fydd cyfran helaeth o'r arian hwnnw'n cael ei wario tan 2014/2015".
"Rydym ni am weld gwariant cyfalaf nawr," meddai.
"Mae pobl ifanc yn ddi-waith rwan.
"Mae gan y llywodraeth ddyletswydd i daclo hynny."
Croesawodd Peter Black AC y £4.7m tuag at y grant amddifadedd disgyblion, elfen allweddol o gyllideb y llynedd, arweiniodd at gefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gyllideb y Llywodraeth, a phasio'r
gyllideb honno
.
Fodd bynnag, dywedodd Mr Black bod angen "llawer mwy" o arian tuag at y grant.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend