Gwir fesur y polisi caffael fydd y nifer o swyddi sy'n cael eu creu, yn ôl AC Gogledd Cymru Llyr Huws Gruffydd ar 26 Medi 2012.
Wrth gyfrannu at ddadl ei blaid ar yr adroddiad McClelland, pwysleisiodd fod "cynyddu'r nifer o gontractau i gwmnïau o Gymru" yn flaenoriaeth i Blaid Cymru.
Fe gafodd yr adroddiad, ynglŷn â gwneud y gorau o bolisi caffael Cymru, ei groesawu gan bob plaid yn y siambr.
Mae caffael cyhoeddus yn cyfrif am tua £4.3bn o'r arian cyhoeddus sy'n cylchdroi yn economi Cymru.
Galwodd Llefarydd Economaidd y Ceidwadwyr Nick Ramsay AC ar lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn "gwneud y mwyaf o fanteision economaidd prosiectau isadeiledd".
Pwysleisiodd AC Canol De Cymru Eluned Parrott yr angen am arbenigwyr medrus yn y maes caffael wrth iddi ddadlau taw "dim ond wedyn y byddwn ni'n gweld ein hawdurdodau cyhoeddus yn dod â'r creadigrwydd yr ydym ni am ei weld i'r broses caffael".
Gan ddisgrifio'r ddadl fel un "hynod adeiladol", amlinellodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ei hymrwymiad i "wneud mwy fyth i hyrwyddo ymarfer da mewn caffael".
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend