Page last updated at 17:13 GMT, Wednesday, 26 September 2012 18:13 UK

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol

Roedd y gweinidog addysg yn "gywir" i orfodi ail-raddio papurau arholiadau TGAU Saesneg yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd ACau yn trafod galwad y blaid ar lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru mewn dadl ar 26 Medi 2012.

Dywedodd Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg Aled Roberts AC ei fod yn "gobeithio na fyddai'r gweinidog yn ystyried y cynnig fel beirniadaeth o'i benderfyniad".

Ond dywedodd bod y trafodaethau ar arholiadau TGAU dros yr haf wedi arwain at yr angen am drafod effaith hir-dymor y penderfyniad.

Nid yw rheoleiddiwr arholiadau Lloegr wedi dewis ail-raddio papurau TGAU myfyrwyr yno.

Mae Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi beirniadu polisi Gweinidog Addysg Cymru.

Wrth ymateb i feirniadaeth o arweinydd ei blaid ym Mhrydain, dywedodd Mr Roberts: "Rhydd i Nick Clegg ei farn ar addysg yng Nghymru".

Wrth annerch y gweinidog addysg, dywedodd AC y Ceidwadwyr Suzy Davies "Pa mor abl bynnag ag yr ydych chi ar gadw eich gwaith fel rheoleiddiwr arwahan, fe fydd amheuaeth o hyd".

Fe gefnogodd y Ceidwadwyr gynnig y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am reoleiddiwr annibynnol.

Does dim rheoleiddiwr annibynnol yng Nghymru ers i ACAC ac Elwa gael eu llyncu gan y llywodraeth yn 2005 am resymau ariannol yn bennaf.

Fe gefnogodd Plaid Cymru y cynnig hefyd.

Dywedodd Simon Thomas AC ar ei rhan: "Mae'n bwysig bod system arholi Cymru nid yn unig yn cael ei dderbyn yng Nghymru ond tu hwnt i Gymru [hefyd]".

Gwrthwynebodd y gweinidog addysg y cynnig.

Dywedodd fod cefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'w benderfyniad i ail-raddio'r papurau TGAU yn "awgrymu nid bod y system wedi methu ond bod y system wedi llwyddo".

Ni chafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific