Page last updated at 15:47 GMT, Tuesday, 25 September 2012 16:47 UK

Datganiad gan y gweinidog cymunedau

Yn ôl y Gweinidog Cymunedau Carl Sargeant "gall cynghorwyr Ynys Môn fod yn barod i adfer rheolaeth" o'r cyngor.

Mae'r ynys wedi bod yn cael ei rheoli gan gomisiynwyr ers Mawrth 2011 yn dilyn blynyddoedd o ymladd mewnol gwleidyddol ar yr ynys.

Bydd etholiadau lleol yn cael eu cynnal yno ym mis Mai 2013 wedi i'r etholiadau cyngor gwreiddiol gael eu gohirio oherwydd y problemau yno.

"Mae'n ymddangos bod y problemau gwleidyddol sydd wedi plagio'r cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi diflannu i raddau helaeth," meddai Mr Sargeant ar 25 Medi 2012.

"Mae'r cynghorwyr yn parhau i ymateb mewn ffordd gytbwys ac aeddfed i bob agwedd o'u gwaith.

"Mae'r grwpiau gwleidyddol yn sefydlog ac maen nhw'n ymwneud yn gyfeillgar â'i gilydd.

"Dydyn nhw ddim yn gwenwyno'r amgylchedd wleidyddol nac yn tynnu'r sylw oddi wrth y materion sy'n bwysig."

Yn ôl y gweinidog, mae'r cyngor wedi ei hadfer yn llwyr ers Mawrth 2011 ac mae hynny "er clod i'r cynghorwyr eu hunain yn ogystal â'r comisiynwyr".

Fodd bynnag, cafodd y cyngor ei feirniadu'n hallt gan yr arolygiaeth addysg Estyn eleni ac fe fydd y cyngor yn cael pecyn o gymorth i sicrhau bod y problemau'n cael y sylw sydd ei angen.

Dywedodd y gweinidog ei fod o'r farn bod y cyngor yn "agosau" at y sefyllfa lle y gall ei reoli ei hun.

Nid yw'n dymuno i'r cynghorwyr fod yn or-ddibynol ar y comisiynwyr; er ei fod yn dweud bod eu cyflwyno yn "angenrheidiol" mae'n awyddus i adfer democratiaieth i'r ynys.

Mae felly'n bwriadu dechrau'r broses o ddod â gwaith y comisiynwyr i ben.

Fe fydd gwaith i dri chomisiynydd hyd nes yr etholiad ym Mai 2013, yn hytrach na phump.

"Os yw'r etholiad yn arwain at weinyddiaeth sefydlog yn y cyngor, fe fydda i'n gallu dod â fy ymyrraeth yno i ben," meddai.

Croesawodd yr holl bleidiau'r cynllun i adfer democratiaeth i'r ynys, a derbyn bod rhaid i'r gweinidog ymyrryd pan y gwnaeth ym mis Mawrth 2011.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific