Page last updated at 17:55 GMT, Wednesday, 18 July 2012 18:55 UK

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi goroesi cynnig o ddiffyg hyder wedi ffrae am adroddiad dadleuol am ad-drefnu gwasanaethau ysbyty.

Cyflwynodd y gwrthbleidiau'r cynnig yn erbyn Lesley Griffiths ar ôl i negeseuon e-bost ddod i'r amlwg rhwng awdur yr adroddiad, yr Athro Marcus Longley, a gweision sifil.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, fod y Gwasanaeth Iechyd yn "ddiogel yn nwylo Lesley Griffiths", yn ystod y ddadl ar Orffennaf 18.

Dywedodd: "Ni sydd wedi creu'r gwasanaeth, mae'n ddiogel gyda'n llywodraeth ni ..."

Mynegodd y gwrthbleidiau eu pryderon am eu diffyg ymddiriedaeth a hyder yn y Gweinidog Iechyd.

Serch hynny, amddiffynnodd y Prif Weinidog ei safbwynt ac wfftiodd honiadau fod ei uwchswyddogion wedi "cydgynllwynio" gydag awdur yr adroddiad annibynnol ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

Wrth arwain y ddadl, cyhuddodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, y gweinidog o fethu â bod yn "agored", "onest" ac "atebol".

Fe wnaeth AC Llafur yng Ngorllewin Caerdydd Mark Drakeford amddiffyn y gweinidog a phwysleisio bod y negeseuon e-bost wedi cael eu "camddeall" a'u "camddehongli".

Dywedodd Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar ei bod wedi "methu â darparu unrhyw eglurhad" pam bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Athro Longley ar gyfer yr achos dros newid.

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, fod "nifer fawr o gwestiynau heb eu hateb yn ddigonol gan y gweinidog neu awdur yr adroddiad hwn".

Cafodd y cynnig o ddiffyg hyder yn Lesley Griffiths ei drechu o 29 pleidlais i 28.

Fe wnaeth unrhyw gyfle i basio'r bleidlais ddiflannu ar ôl i AC Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, gyhoeddi y byddai'n absennol o'r drafodaeth oherwydd nad oedd am ymuno yn y "ddadl ragfarnllyd" cyn i'r dystiolaeth gael ei chyflwyno yn llawn.

Dyma'r cynnig cyntaf o ddiffyg hyder i gael ei gyflwyno ers etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific