Page last updated at 13:55 GMT, Wednesday, 18 July 2012 14:55 UK

Cwestiynau amgylchedd

Galwodd yr AC Ceidwadol Angela Burns ar i lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod y gan y gweithlu'r sgiliau cywir er mwyn sicrhau buddsoddiadau ynni morol ar 18 Gorffennaf 2012.

Pwysleisiodd yr angen i ddarparwyr hyfforddiant baratoi gweithlu ar gyfer y dyfodol fel y nodir yn un o addewidion y llywodraeth.

Cytunodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths fod ynni morol yn cynnig potensial mawr yng Nghymru a phwysleisiodd ei ymrwymiad i weithio gyda llywodraeth y DU er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd a ddarperir gan yr adnodd naturiol.

Tynnodd AC Plaid Cymru, Alun Ffred Jones sylw at y "potensial enfawr" sydd i ddatblygu rhaglenni pŵer hydro ar yr ucheldiroedd Cymreig.

Lleisiodd bryderon fodd bynnag, am y costau uchel o gysylltu'r cynlluniau hyn i'r grid ar lefel leol.

Fe wnaeth y gweinidog ei sicrhau eu bod yn gwneud pwyntiau sy'n briodol i'r grid, y cwmnïau dosbarthu, a llywodraeth y DU gan ei fod yn gyfrifol am lawer o'r materion ynni.

Bu Mr Griffiths hefyd yn ateb cwestiynau ar warchodfeydd anifeiliaid, amddiffynfeydd rhag llifogydd a'r corff amgylchedd newydd.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific