Page last updated at 14:20 GMT, Wednesday, 18 July 2012 15:20 UK

Cwestiynau Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mae penderfyniad yr Uchel Lys i beidio â chynnwys Clwb Rygbi Pontypŵl yn uwch gynghrair Undeb Rygbi Cymru wedi achosi "difrod aruthrol" i'r clwb, yn ôl y gweindiog treftadaeth.

Bu Mr Lewis yn ateb cwestiynau'r aelodau, ar 18 Gorfennaf 2012.

Yn ei ymateb i gwestiwn gan AC Llafur yn Nhorfaen Lynne Neagle, dywedodd Mr Lewis fod hyn yn fater i Undeb Rygbi Cymru, ond ei fod yn gobeithio y byddai'r clwb a'r chwaraewyr yn ennill y parch y maent yn ei haeddu ynghylch unrhyw drafodaethau pellach ar eu dyfodol.

Ym mis Gorffennaf 2012, methodd Clwb Rygbi Pontypŵl yn ei gais yn yr Uchel Lys yn erbyn URC, i atal iddyn nhw ddisgyn o'r uwch gynghrair.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ailstrwythuro'r gêm yng Nghymru, gan sefydlu fformat newydd i'r uwch gynghrair yng Nghymru, sy'n cynnwys 12 tîm.

Mewn achos llys yn Llundain dros y mis diwethaf, fe wnaeth Pontypŵl herio penderfyniad yr undeb, gan ddadlau ei bod yn annheg.

Yn ystod y sesiwn lawn, fe wnaeth ACau hefyd droi eu sylw at brinder tai ar gyfer pobl anabl.

Cododd AC y Ceidwadol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Angela Burns AC ei phryderon bod na brinder difrifol yn nifer y cartrefi ar gyfer pobl ag anableddau, ar draws Cymru.

Mynnodd Mr Lewis fod y mater ar frig agenda'r llywodraeth a phwysleisiodd mai ei fwriad oedd sicrhau bod pobl yn aros yn weithgar o fewn eu cartrefi.

Fe wnaeth Mr Lewis hefyd ateb cwestiynau ar bynciau eraill gan gynnwys y budd-dal tai i bobl o dan 25 oed, y sector renti tai preifat a chynlluniau i hyrwyddo safleoedd treftadaeth Cymru i gynulleidfa ryngwladol.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific