Page last updated at 17:01 GMT, Tuesday, 17 July 2012 18:01 UK

Datganiad gan y Gweinidog Busnes a Menter

Mae'r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi croesawu adroddiad sy'n galw am y llywodraeth i ddatblygu mentrau busnes i roi hwb i economi wledig canolbarth Cymru.

Bu'r gweinidog yn gwneud datganiad ar Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Tŵf Lleol Powys.

Cafodd y grŵp ei sefydlu i archwilio'r cynnig a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer sefydlu Ardaloedd Twf Lleol yn y sir fel fel dewis arall yn lle Ardaloedd Menter.

Fe wnaeth yr aelodau ystyried y materion penodol a oedd yn effeithio ar drefi marchnad allweddol Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd a'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

Mae'r adroddiad yn awgrymu bod trefi marchnad Powys yn dioddef dirywiad yn eu heconomi a'u gwasanaethau.

Yn ôl Mrs Hart mae creu swyddi a thwf i'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.

Pwysleisiodd y gweinidog fod angen datblygu'r sector dwristiaeth ardaloedd gwledig a gwella seilwaith y trefi yma.

Pwysleisiodd Llefarydd Plaid Cymru Economi Aled Ffred Jones fod y problemau yma'n wir ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

Fe wnaeth Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams hefyd bwysleisiodd yr angen i wneud yr adroddiad yn berthnasol i ardaloedd gwledig eraill ar draws Cymru.

Croesawodd Edwina Hart y sylwadau a chyhoeddodd y byddai'n diweddaru'r cynulliad ar sut yn union bydd y llywodraeth yn ymateb i'r adroddiad a sut y bydd ardaloedd gwledig eraill ledled Cymru yn elwa, yn yr Hydref.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific