Yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru os nad ydym yn ennill diddordeb y cyhoedd o ran treftadaeth, "byddwn yn ei golli".
Gwnaed y sylwad ganDr Eurwyn Wiliam, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i bolisi'r llywodraeth ar yr amgylchedd hanesyddol, ar 11 Gorffennaf 2012.
Mae'r amgylchedd hanesyddol yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion (cestyll, abatai, meini hirion ac olion diwydiannol), safleoedd llongddrylliadau, safleoedd archeolegol a pharciau, gerddi a thirweddau hanesyddol.
Mae'r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, cofnodi ac yn esbonio adeiladau ac archaeoleg, ac mae'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar-lein ac yn ei lyfrgell yn Aberystwyth.
Nid oes sôn am ymchwiliad ac ymchwil o'r amgylchedd hanesyddol o gwbl ym mlaenoriaethau'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni,.
Dywedodd Dr Wiliam bod ymchwiliad ac ymchwil yn "beth hanfodol a dylid ei gynnwys".
Ychwanegodd y byddai'n "ddefnyddiol os fyddai'r gweinidog yn arwain ac yn gwneud hyn yn flaenoriaeth".
Yn hwyrach yn y sesiwn, rhoddodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, dystiolaeth i'r pwyllgor.
Pwysleisiodd pwysigrwydd bod gan bobl Cymru ymwybyddiaeth a theimlad o berchnogaeth dros amgylchedd hanesyddol y wlad.
Ychwanegodd Mr Lewis "os nad ydym yn galluogi pawb i gael budd ohono, dydyn ni ddim yn ei rheoli'n iawn".
Rhoddwyd tystiolaeth gan John Howells, Cyfarwyddwr Tai, Adfywio a Threftadaeth y llywodraeth a gan gynrychiolwyr Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol y llywodraeth ac o Groeso Cymru.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
|
Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
|
|
|
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend