Page last updated at 15:41 GMT, Tuesday, 10 July 2012 16:41 UK

Datganiad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus

Mae ymateb y llywodraeth yn y Bil Archwilio Cyhoeddus wedi ei "gynllunio i sicrhau" annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol yn ôl y Gweinidog Cyllid Jane Hutt.

Gwnaed y sylw gan Ms Hutt wrth iddi wneud datganiad ar gyflwyno'r Bil Archwilio Cyhoeddus.

Nod y bil yw diwygio a moderneiddio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a swydd archwilydd cyffredinol Cymru.

Bydd yn sefydlu bwrdd ar gyfer SAC fydd yn cynnwys aelodau anweithredol a fydd yn cael eu penodi gan SAC.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas wedi beirniadu'r bil drafft oherwydd ei fod o'r farn y gallai swydd yr archwilydd cyffredinol gael ei gyfyngu.

Mae Mr Thomas wedi awgrymu y dylai'r pŵer fod gan yr archwilydd cyffredinol i barhau i gyflogi ei staff ei hun a sicrhau eu gwasanaethau proffesiynol.

Fodd bynnag, dywedodd Ms Hutt bod cymal 26 yn ymateb y llywodraeth yn y bil "wedi ei gynllunio i sicrhau mai Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n pennu ei raglen waith ei hun i gynnal annibyniaeth ei swyddfa".

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific