Page last updated at 13:51 GMT, Tuesday, 10 July 2012 14:51 UK

Cwestiynau i'r prif weinidog

Fe wnaeth y prif weinidog wadu cyhuddiadau gan y gwrthbleidiau fod y gweinidog iechyd wedi ymyrryd ag adroddiad annibynnol ar gynlluniau ad-drefnu'r NHS.

Bu Carwyn Jones AC yn ateb cwestiynau'r aelodau yn y Siambr, ar 10 Gorffennaf 2012.

Mewn cyfres o negeseuon e-bost, mae awdur yr adroddiad, sef yr Athro Marcus Longley, yn gofyn i weision sifil am "ffeithiau allweddol" i gefnogi'r achos dros newid.

Serch hynny mae'r Athro Longley a'r llywodraeth yn mynnu bod yr adroddiad yn annibynnol.

Yn ystod cwestiynau'r prif weinidog, gofynnodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a oedd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths yn rhan o'r negeseuon e-bost.

Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Leanne Wood a'r Ceidwadwyr Andrew RT Davies hefyd herio Carwyn Jones ar y negeseuon e-bost.

Serch hynny, fe wnaeth y prif weinidog wadu bod y gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r negeseuon e-bost a dyweododd mai "dyma'r stori fwyaf ansylweddol wleidyddol dwi wedi dod ar draws erioed".

Dywedodd fod llefarydd iechyd y Ceidwadwyr wedi bod yn anghywir i ymosod ar y athro academaidd annibynnol, Marcus Longley, mewn cyfweliad radio i BBC Cymru.

Dywedodd y prif weinidog y dylai Mr Millar "geisio cyngor cyfreithiol" ar ôl cwestiynu annibyniaeth economegydd iechyd blaenllaw.

Wrth ymateb i'w sylwadau, cyhuddodd Mr Davies y prif weinidog o osgoi'r pwnc ac ychwanegodd fod Llafur Cymru yn ceisio "bwlio ei hun allan o dwll".

Yn ogystal â chwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau, fe wnaeth Mr Jones hefyd ateb cwestiynau ar iechyd anifeiliaid, polisi Awtistiaeth Llywodraeth Cymru a chefnogi gamblo patholegol.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific