Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Materion Ewropeaidd fod arolygiad annibynnol i'r ffordd mae Cymru'n rheoli ei rhaglenni Ewropeaidd yn mynd i gael ei gynnal.
Alun Davies AC yn arwain y ddadl ar 3 Gorffennaf 2012.
Yn ôl Mr Davies, "bydd yr arolygiad annibynnol hwn yn darparu gyda'r cyfle i ddysgu gwersi o'r profiad rydym wedi ei gael yn rheoli rhaglenni Ewropeaidd hyd yma."
Bydd Dr Grahame Guilford, sydd â phrofiad busnes cynhwysfawr ac yn aelod o drefniadau partneriaeth Ewrop, yn cynnal yr arolygiad.
Fe fydd yn canolbwyntio ar symleiddio'r ffordd mae modd cael gafael ar gyllid, y defnydd a wneir o gaffaeliad wrth weithredu prosiectau ac y rhan mae'r sector breifat yn ei chwarae.
Yn ogystal â hynny, bydd yr arolygiad yn edrych ar y ffordd orau o integreiddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd gan gynnwys defnyddio e-fusnes i helpu cwsmeriaid rheoli eu cyllid, rheolau cymwysterau a systemau talu.
Bydd yn cael ei rannu i ddau ddarn a bydd yn cyd-fynd gyda ymgynghoriad cyhoeddus rhaglenni newydd cyn i drafodaethau swyddogol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ddechrau yn 2013.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend