Dylai'r Comisiwn Etholiadol ystyried gostwng yr oedran pleidleisio i 16, yn ôl llywodraeth Cymru.
Bu'r ACau Julie Morgan, Aled Roberts, Bethan Jenkins and Paul Davies yn cynnig i'r cynulliad y dylai'r oedran pleidleisio ostwng i 16 oed yng Nghymru, ar 4 Gorffennaf 2012.
Pwysleisiodd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt fod cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn hanfodol.
Er gwaethaf cefnogaeth y llywodraeth Cymru tuag at ostwng yr oedran pleidleisio i 16, nid oes ganddi'r pwerau i wneud hyn.
Fe wnaeth y gweinidog, felly, alw ar y Comisiwn Etholiadol i edrych ar ostwng yr oedran pleidleisio, ar ran pobl ifanc Cymru.
Wrth arwain y ddadl, pwysleisiodd AC Llafur Julie Morgan bwysigrwydd cynnwys "cymaint o bobl yn y system ddemocrataidd ag y bo modd".
Dywedodd Ms Morgan fod hawliau pleidleisio gan bobl ifanc 16 oed mewn gwledydd fel Awstria, Jersey, Nicaragua, yr Almaen a Hwngari.
Cytunodd AC Ceidwadol Paul Davies gyda sylwadau Ms Morgan a dadleuodd, os oedd bobl ifanc 16 oed yn ddigon hen i dalu trethi, roeddent hefyd yn ddigon hen i bleidleisio.
Dywedodd Mr Davies fod hi'n bwysig "ymddiried ein pobl ifanc a chael yr hyder mewn pobl ifanc".
Anghytunodd AC y Ceidwadwyr Darren Millar AC â'r cynnig.
Dywedodd Mr Millar, yn ôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae plentyn yn golygu pob bod dynol yn is na 18 oed.
Roedd AC y Ceidwadwyr dros Orllewin Clwyd o'r farn bod ACau yn anghyson yn eu dadleuon os oeddent yn dweud bod pobl ifanc, 16 oed yn "oedolion cyflawn".
Rhybuddiodd os oedd yr oedran pleidleisio yn gostwng, yna i sicrhau cysondeb, dylid gostwng yr oedran o yfed alcohol a gamblo hefyd.
I gloi'r ddadl, croesawodd AC Plaid Cymru Bethan Jenkinsgyfraniadau cadarnhaol yr aelodau a galwodd ar y cynulliad i bleidleisio o blaid y cynnig.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend