Page last updated at 13:32 GMT, Wednesday, 4 July 2012 14:32 UK

Cwestiynau addysg

Fe wnaeth AC y Ceidwadwyr godi ei bryderon ynghlych "peryglon posibl" cynlluniau uno prifysgolion Casnewydd a Morgannwg.

Bu'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews AC yn wynebu cwestiynau gan yr aelodau, ar 4 Gorffennaf 2012.

Mae prifysgolion Morgannwg a Chasnewydd wedi cytuno cyfuno a ffurfio prifysgol newydd.

Croesawodd AC Mynwy Nick Ramsay y cyhoeddiad ond galwodd ar y gweinidog i sicrhau i bobl Casnewydd "na fyddai gwaith caled prifysgol Casnewydd yn diflannu".

Pwysleisiodd y gweinidog fod hynny'n fater rhwng prifysgolion Casnewydd a Morgannwg ac y byddai'r llywodraeth yn cefnogi unrhyw "ddatblygiadau cadarnhaol" yn dilyn y trafodaethau.

Mynegodd AC y Ceidwadwyr William Graham ei bryder ynghylch y cydbwysedd rhwng myfyrwyr tramor a Phrydain yn y sefydliad newydd.

Yn ôl AC De Ddwyrain Cymru mae na draddodiad hir o fyfyrwyr tramor yn cofrestru gyda'r ddwy brifysgol a galwodd ar y gweinidog am ddatganiad ynghylch ei fwriad i fynd i'r afael â chadw cydbwysedd.

Dywedodd y gweinidog na fyddai newid yn y sefyllfa bresennol ac y byddai'n croesawu cynigion ar gyfer yr uno.

Ar yr un pwnc, gofynnodd Llefarydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberst os y byddai'r gweinidog yn ystyried modelau uno prifysgolion yn yr Alban.

Datgelodd Mr Andrews fod llawer o "gynigion diddorol" wedi cael eu hargymell ac y byddai nifer o fodelau ar draws y byd, megis yr Almaen a Chaliffornia, hefyd yn cael eu hystyried.

Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar driwantiaeth, addysg ddwyieithog arbennig a gwella safonau mewn ysgolion.

SEE ALSO

Story Tools

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific