Page last updated at 13:49 GMT, Tuesday, 26 June 2012 14:49 UK

Datganiad busnes

Gwrthododd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt alwadau gan aelod o Blaid Cymru am ddatganiad gan lywodraeth Cymru ar ei pholisi arfau niwclear.

Bu Ms Hutt yn ateb ceisiadau am ddadleuon a datganiadau ar amryw o bynciau, ar 26 Mehefin 2012.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas alw ar Ms Hutt am ddatganiad gan y prif weinidog, yn dilyn ei sylwadau yn ystod y sesiwn lawn ar 19 Mehefin.

Yn ystod cwestiynau'r prif weinidog yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Carwyn Jones y byddai "croeso mawr" i longau tanfor niwclear Prydain i Gymru pe tai nhw'n gadael yr Alban.

Pwysleisiodd Jane Hutt fod Mr Jones wedi ymateb i gwestiynau penodol ar arfau niwclear a nad oedd yn teimlo bod angen cynnal trafodaeth bellach ar y mater.

Fe wnaeth ACau hefyd alw am ddatganiadau ar gynllun canser y llywodraeth, Mis yn dathlu Hanes Teithwyr Sipsi Roma ac ardaloedd cadwraeth forol.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific