Mae angen canolbwyntio mwy ar wneud y "pethau bychain" ar gyfer pobl sy'n dioddef o dementia yng Nghymru fel y gallant barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain, yn ôl un o weinidogion llywodraeth Cymru.
Roedd y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 20 Mehefin 2012.
Mae'r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i'r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a'r ffyrdd y gall ddiwallu anghenion pobl hŷn nawr ac yn y dyfodol.
Er mwyn ceisio lliniaru'r pwysau ar wasanaethau gofal preswyl yn y dyfodol, dywedodd Ms Thomas wrth ACau bod llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar alluogi mwy o bobl hŷn i fyw'n annibynnol yn y gymuned.
Dywedodd: "Rydym wedi symud yn rhy bell i ffwrdd oddi wrth y pethau bychain ac rwy'n credu bod y gwasanaethau ataliol yr ryn ni'n darparu yn bwysig iawn.
"Mae angen i ni wneud yr ychydig o lanhau, yr ychydig o addurno, yr ychydig o arddio sydd angen ei wneud, ac i fod yno fel cwmni."
Dywedodd y gallai gwneud y pethau bychain hyn ar gyfer dioddefwyr dementia yng Nghymru, atal problemau rhag mynd yn fwy difrifol a helpu pobl i fyw'n annibynnol yn hirach.
Ychwanegodd Ms Thomas y byddai'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu'r gwasanaethau hyn yng nghartrefi Cymru.
Gofynnodd yr AC Llafur Lynne Neagle hefyd gwestiwn i Gwenda Thomas am lefelau staffio mewn cartrefi gofal.
Dywedodd Ms Thomas ei bod yn disgwyl i gartrefi gofal gael eu "staffio yn briodol bob amser", ond yn y pen draw ei fod yn fater i bob cartref annibynnol.
Gofynnodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams AC pam bod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud i annog y sector nid-er-elw i fynd i mewn i'r farchnad, a gofynnodd pa dargedau - os o gwbl - oedd wedi'u gosod ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Ms Thomas AC bod 86 y cant o gartrefi gofal yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan y sector breifat a mynnodd bod llywodraeth Cymru yn awyddus i ostwng y ffigur hwnnw ond rhybuddiodd "Na fyddai'n digwydd dros nos".
Yn ystod ail hanner y sesiwn, trodd ACau eu sylw at graffu ar y Mesur Hylendid Bwyd (Cymru).
O dan y mesur byddai'n rhaid i lefydd sy'n gwerthu bwyd wedi'i goginio, arddangos gradd 0-5 ar eu heiddo.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths, a swyddogion y llywodraeth David Worthington a Christopher Humphreys.
Dywedodd Mr Worthington wrth ACau y gallai pob siop fwyd wedi'i goginio yng Nghymru gyrraedd y gradd uchaf o dan y system arfaethedig.
Dywedodd: "Gallaf ddweud yn bendant wrth y pwyllgor heddiw, cyn belled ag y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn y cwestiwn does 'na ddim un safle yng Nghymru na allai gyrraedd gradd bump."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths AC y byddai gwarchodwyr plant, canolfannau hamdden a siopau bach sy'n gwerthu losin a diodydd wedi'u pecynnu yn unig, yn cael eu heithrio o'r ddeddfwriaeth.
Clywodd y pwyllgor hefyd na fydd hi'n ofynnol i dai bwyta yng Nghymru sy'n gwerthu bwyd cyflym i arddangos eu gradd ar eu bwydlenni oherwydd y costau sydd ynghlwm â hynny, ond byddai'n rhaid rhoi sgôr ar lafar dros y ffôn os yw cwsmeriaid yn gofyn amdano.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend