Page last updated at 14:10 GMT, Tuesday, 19 June 2012 15:10 UK

Datganiad busnes

Galwodd ACau ar y gweinidog i annog y llywodraeth am ddatganiad pellach ar wasanaethau plant yn Sir Benfro.

Bu Arweinydd y Ty Jane Hutt yn ateb ceisiadau'r aelodau am ddatganiadau a dadleuon ar gyfer y dyfodol, ar 19 Mehefin 2012.

Galwodd AC Llafur Joyce Watson ac AC Plaid Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas ar y gweinidog am ddatganiad ynglyn â'r diweddaraf ar wasanaethau plant yn y sir.

Mae adroddiad sy'n datgelu methiannau'r cyngor ynglyn â honiadau o gam-drin plant a ddisgrifiwyd fel rhai "cythryblus tu hwnt" gan gomisiynydd plant Cymru.

Cododd Simon Thomas AC ei bryderon fod y datblygiadau i drefniadau plant yn Sir Benfro yn llawer rhy araf.

Dywedodd Jane Hutt fod yr aelodau wedi cael eu hysbysu am yr hyn a oedd yn digwydd a chyhoeddodd y byddai datganiad arall yn cael ei wneud gan y dirprwy weinidog plant cyn hir.

Fe wnaeth ACau hefyd alw ar y gweinidog am ddatganiad gan lywodraeth Cymru ynglyn â'r cynllun canser a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf.

Mynegodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ac Arweinydd y Ceidwadwyr eu pryder nad oedd y cynulliad wedi cael amser i drafod y mater yn ystod y cyfarfod llawn.

Fe wnaeth Ms Hutt hefyd ateb ceisiadau am ddatganiadau ar Gynghrair Henoed Cymru a gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific