Page last updated at 10:21 GMT, Wednesday, 13 June 2012 11:21 UK

Y Cynulliad

Fe wnaeth grwp o ACau glywed tystiolaeth fod prifysgolion Cymru, o'u cymharu â phrifysgolion Lloegr, ar ei hôl hi o safbwynt cyllid gan yr UE.

Bu'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cymryd tystiolaeth fel rhan o'u hymchwiliad i Horizon 2020 ar 14 Mehefin 2012.

Cafodd cynigion Horizon 2020 eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Tachwedd 2011.

Bydd Horizon 2020 yn gweithredu rhwng 2014 a 2020 ac mae'n gobeithio darparu gwerth €80 biliwn o arian tuag at ymchwil ac arloesedd fel rhan o raglen o hybu twf yn yr economi a chreu swyddi ar draws Ewrop.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies, wrth y pwyllgor fod prifysgolion Cymru yn "tanberfformio" o safbwynt cyllid Ewropeaidd o gymharu â chyfartaledd y DU.

Dywedodd wrth ACau: "Nid yw prifysgolion Cymru mewn sefyllfa delfrydol i ymateb i'r her o greu economi fodern, byrlymus, gwybodus.

"Dyna beth yw natur Horizon 2020... ac nid ydym mewn sefyllfa da, rydym yn dechrau mewn sefyllfa nad ydym yn gyfforddus ag ef.

Dywedodd Yr Athro Davies fod prifysgolion Cymru wedi cael eu tanariannu'n sylweddol am flynyddoedd a bod 50 y cant o hynny oherwydd diffyg gwyddoniaeth, technoleg, peirianeg a rhaglenni mathemategol y pen o'r boblogaeth nag unrhyw le arall yn y DU.

Fe wnaeth Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw) Yr Athro Philip Gummett ddarparu ffigyrau gerbron y pwyllgor ynglyn â gwahaniaethau cyllido yn y DU.

Dywedodd Yr Athro Gummett wrth ACau fod y swm o arian gan Hefcw ar gyfer gwaith ymchwil mewn prifysgolion Cymru wedi cynyddu i £75 miliwn y flwyddyn, o'i gymharu gyda Phrifysgol Manceinion yn unig, sy'n derbyn £80 miliwn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.

Ychwanegodd: "Mae mwy o arian yn mynd i Brifysgol Manceinion nag i Gymru gyfan, dyna'r hyn yr ydym yn eu herbyn."

Fe wnaeth y pwyllgor hefyd wrando ar dystiolaeth gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa Ymchwil y DU Christina Miller.

Soniodd Ms Miller am effaith bosibl Horizon 2020 ar Gymru a gofynnwyd pam nad oedd mwy o arian yn cael ei roi i brosiectau dyniaethau yng Nghymru.

Gofynnodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Eluned Parrott pam bod gymaint o eiriau yn y ddogfen yn cefeirio at "wyddoniaeth" a gofynnodd sut y gallai mwy o geisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau dyniaethau gael eu hannog.

Dywedodd Christina Millar wrth ACau ei bod yn teimlo'n gryf bod "y gair gwyddoniaeth yn cael ei ddefnyddio'n gyson mewn polisi ymchwil Ewropeaidd".

Ychwanegodd: "Rhywbeth yr ydym bob amser yn pwysleisio yn y swyddfa yw defnyddio'r gair ymchwil yn fwy aml oherwydd ei fod yn golygu y lled gyfan o gyfleoedd ar gyfer unrhyw beth sy'n cael ei gynnwys o dan y cytundeb. "

Aeth Ms Miller ymlaen i ddweud ei bod am annog mwy o geisiadau gan ymchwilwyr y celfyddydau a dyniaethau yng Nghymru.

Aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific