Page last updated at 13:56 GMT, Thursday, 24 May 2012 14:56 UK

Pwyllgor Menter a Busnes

"Does dim modd i gynlluniau prentisiaeth gystadlu gyda ysgolion a cholegau chweched dosbarth" yn ôl Andrew Cooksley, Rheolwr Gyfarwyddwr 'Associated Community Training' (ACT).

Gwnaeth Mr Cooksley y sylwad yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ynglŷn â phrentisiaethau yng Nghymru ar 24 Mai 2012.

Bwriad yr ymgynghoriad yw darganfod os ydy'r system brentisiaeth bresennol yn ddigonol, yn darparu anghenion sgiliau i gyflogwyr y dyfodol ac yn opsiwn deniadol i bobl ifanc.

Nid yw aros yn y chweched ddosbarth am ddwy flynedd yn helpu pob disgybl i gael swydd yn y pendraw yn ôl Mr Cooksley.

Dywedodd ef fod angen i'r system brentisiaethau "amlygu ei hun, ac mae angen datblygu'r brand" i'w wneud yn ddewis deniadol ar gyfer pobl ifanc.

Gofynnodd AC Llafur Joyce Watson i'r cyfranwyr, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw stereoteipio ar sail rhyw yn y system brentisiaeth.

Ymatebodd Arwyn Watkins, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru drwy ddweud bod "y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn cael ei fesur yn flynyddol, a bod astudiaethau yn cael eu cynnal i fesur y sefyllfa".

Yn ôl Mr Cooksley, y gred yw mai recriwtio "gosodwyr bric benywaidd" yw'r nod.

Esboniodd ef nad hynny oedd y sefyllfa, a bod diffyg bechgyn yn nifer o'r cynlluniau prentisiaeth sydd ar gael.

Fe roddwyd tystiolaeth i'r pwyllgor gan ColegauCymru hefyd.

Aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific