Page last updated at 15:53 GMT, Tuesday, 22 May 2012 16:53 UK

Datganiad ar y dreth gyngor

Cyhuddodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas lywodraeth Cymru o fethu amddiffyn y bobl fwyaf bregus yng Nghymru, yn ystod datganiad ar fudd-daliadau'r dreth gyngor.

Bu'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant yn gwneud datganiad ar ddarparu cymorth gyda'r dreth gyngor yng Nghymru, ar 22 Mai 2012.

Yn ôl Mr Thomas mae'r trefniadau newydd yn anheg ac yn methu ag amddiffyn y bobl dlotaf mewn cymunedau ar draws Cymru.

Mynnodd y gweinidog ei fod yn "bryderus iawn" gyda chynlluniau llywodraeth y DU i ddiddymu'r budd-dal treth cyngor ac amlinellodd gynigion llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun newydd.

Dywedodd Mr Sargeant: "Mae bron i 328,000 o deuluoedd yng Nghymru, tua un o bob pedwar, yn derbyn rhyw fath o gymorth ariannol ar gyfer eu taliadau treth gyngor.

"Er bod gen i amheuon dwfn am benderfyniadau llywodraeth y DU a'u heffaith o ganlyniad i hynny, mae gennym ddyletswydd foesol i ddatblygu cynllun newydd.

"Os yr ydym yn methu â gwneud hynny, bydd rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yn profi caledi ariannol difrifol."

Serch hynny cyhuddodd Rhodri Glyn Thomas AM y llywodraeth o "wneud dim" i amddiffyn y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Fe wnaeth y gweinidog fynegu ei siom gyda sylwadau'r aelod a phwysleisiodd fod mynd i'r afael ag achosion hir-dymor tlodi yng Nghymru yn flaenoriaeth i lywodraeth Cymru.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific