Fe fu arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Andrew RT Davies AC mewn dadl danllyd gyda'r Prif Weinidog ynglyn â faint o reolwyr sydd eu hangen i redeg y gwasanaeth sifil Cymreig, ar 22 Mai 2012.
Ymateb Carwyn Jones AC oedd i ddweud bod pob AC yn rheoli staff, ac felly bod trigain o reolwyr yn y siambr yn unig.
Dywedodd: "Mae'n gwbl briodol bod pobl yn gyfrifol am reoli cyllid, am reoli staff ac am reoli eu llwyth gwaith eu hunain. O ran hynny maen nhw i gyd yn rheolwyr."
Ond yn ôl Mr Davies ffwlbri oedd hynny a dywedodd bod 80% o staff y gwasanaeth sifil yn rheolwyr.
Dywedodd: "Brif weinidog - mae'ch perfformiad chi'n gwaethygu o wythnos i wythnos.."
"Dyw corff sydd ag 80% o'i staff yn rheolwyr i fi ddim yn gorff deinamig, yn arbennig felly mewn byd busnes"
Fe ymatebodd Mr Jones drwy ofyn beth yr oedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad yn ei wybod am fyd busnes, a bod ei sylw wedi digwydd ar y diwrnod yr oedd Cronfa Ariannol yr IMF wedi dweud wrth ei blaid eu bod yn anghywir ar yr economi.
Cyfeiriad oedd hynny at yr IMF yn dweud bod gwendid economaidd parhaus y DG yn ei gwneud hi'n amlwg y dylid chwistrellu mwy o arian i'r economi ac y dylid hyd yn oed dorri cyfraddau llog.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC i Mr Jones a oedd yn cytuno gyda syniad arlywydd newydd Ffrainc, Francois Hollande, o godi treth ar drafodion ariannol ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd.
Honnodd Ms Wood y byddai treth o'r fath yn codi £57bn bob blwyddyn, gan gynnwys £435m bob blwyddyn i Gymru.
Ymateb y Prif weinidog oedd i ddweud y byddai treth o'r fath yn gwneud synnwyr cyhyd â'i bod mor eang â phosib, ac yn cynnwys Gogledd America, yn ogystal â'r Deyrnas Gyfunol a'r UE.
Fe ofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams i Carwyn Jones pa bryd y byddai'n cyflwyno'r polisi, gytunwyd mewn trafodaethau gyda'i phlaid hi, lle byddai'r llywodraeth yn gwarantu 95% o forgeisi pobl sy'n prynu ty am y tro cyntaf - a hwnnw'n dy wedi'i adeiladu'n newydd.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl y byddai'r polisi'n cael ei weithredu "cyn gynted â phosibl".
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend