Page last updated at 07:48 GMT, Tuesday, 15 May 2012 08:48 UK

Pwyllgor Cyllid

Mae'r Gweinidog Iechyd Jane Hutt AC wedi dweud wrth y pwyllgor cyllid ei bod hi'n "realistig" ynglyn â phwerau benthyg llywodraeth Cymru.

Wrth siarad ar 16 Mai 2012 dywedodd Ms Hutt wrth ACau ei bod am i lywodraeth Cymru gael yr "hyblygrwydd mwyaf posib" dros bwerau benthyg.

Mae llywodraeth Cymru mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda'r Trysorlys ynglyn â chael pwerau benthyg, fel rhan o ddiwygiadau i'r ffordd mae'r llywodraeth yn cael ei hariannu.

Yn ychwanegol at hyn mae Comisiwn Silk yn ystyried a ddylid datganoli'r cyfrifoldeb am rai trethi i Gaerdydd.

Ar hyn o bryd gall llywodraeth Cymru ddim codi trethi, dim ond gwario'r hyn mae'n ei dderbyn mewn cyllideb flynyddol gan y Trysorlys..

Fe ofynnodd llefarydd cyllid Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones AC i Ms Hutt a ddylai pwerau codi trethi a phwerau benthyg fynd law yn llaw.

Fe ddefnyddiodd Mr Jones esiampl o'r Alban gan ddweud bod caniatad wedi cael ei roi i lywodraeth y wlad fenthyg hyd at £2.2bn oherwydd eu bod yn gallu gael mynediad at gyllid trethiannol o dan ddeddf yr Alban 2012.

Awgrymodd Ms Hutt y byddai llywodraeth Cymru yn hoffi cael pwerau i godi treth, ar sail pleidlais gadarnhaol mewn refferendwm ond bod yn rhaid i unrhyw bwerau benthyg fod "i bwrpas.."

Dywedodd wrth y pwyllgor: "Fe ddylen ni gael ein trin yn gyfartal â'r Alban yn nhermau pwerau benthyg a'r trefniadau ar gyfer y pwerau hynny."

Fe ofynnwyd iddi gan lefarydd cyllid y Ceidwadwyr Paul Davies AC a oedd llywodraeth Cymru am i San Steffan roi cyfyngiadau ar faint y byddai modd ei fenthyg, neu a oedden nhw am yr hyblygrwydd i osod eu cyfyngiadau eu hunain.

Esboniodd Ms Hutt y byddai hynny'n rhan o'r trafodaethau gyda'r Trysorlys ond ei bod eisiau'r "hyblygrwydd mwyaf posib i gwrdd â'n anghenion buddsoddi."

Fe glywodd y pwyllgor hefyd dystiolaeth ar effeithlonrwydd cronfeydd strwythurol yng Nghymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific