Page last updated at 17:41 GMT, Wednesday, 16 May 2012 18:41 UK

Cynnig ar fil yr iaith Gymraeg

Mae cynlluniau i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol gam yn nes.

Fe gytunodd pob plaid ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ar 16 Mai 2012.

Fe fydd y bil yn ehangu ar ddeddf llywodraeth Cymru 2006 gan ddatgan bod y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac y dylid eu trin yn gyfartal.

Wrth gyflwyno'r cynnig croesawodd aelod cynulliad Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas y syniad o wneud y cynulliad yn "naturiol ddwyieithog".

Ond roedd Mr Thomas yn feirniadol o un agwedd o adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y bil.

Roedd yr adroddiad wedi awgrymu y dylid cofnodi holl gyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgorau'r Cynulliad yn y ddwy iaith.

Ar hyn o bryd dim ond trafodion y cyfarfodydd llawn sy'n cael eu cyhoeddi yn y ddwy iaith.

Roedd Mr Thomas yn poeni am gost unrhyw gynnydd mewn gwasanaethau cyfieithu, gan alw ar ACau i ddod o hyd i atebion "dyfeisgar ac ymarferol".

Ychwanegodd nad oedd rhaid ysgrifennu'r argymhelliad i ymestyn cofnodion dwyieithog i gynnwys pwyllgorau, ar wyneb y mesur.

Wrth ymateb ar ran y llywodraeth dywedodd y gweinidog sgiliau ac addysg Leighton Andrews AC y dylid "trysori a meithrin" yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Andrews bod llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddorion bras y mesur, a'i fod yn dangos bod modd defnyddio'r iaith Gymraeg "mewn bywyd pob dydd".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific