Page last updated at 15:38 GMT, Tuesday, 15 May 2012 16:38 UK

Dadl ar bolisi teithio byw

Cerdded a beicio ddylai fod y ffordd fwyaf naturiol o wneud teithiau byr, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant.

Bu Mr Sargeant yn arwain dadl ar bolisi teithio byw llywodraeth Cymru, ar 15 Mai 2012.

Mae'r papur gwyn ar y Bil Teithio Byw yn cyfeirio at yr anghysondebau sy'n caniatáu i bobl gerdded ar lwybrau beicio ond sy'n atal beicwyr rhag mynd ar lwybrau troed.

Tra bod rhai llwybrau troed yn rhy brysur neu'n beryglus ar gyfer beicio, mae modd i eraill, yn enwedig mewn trefi eu defnyddio'n ddiogel.

Mynnodd y gweinidog y byddai'r polisi yn hyrwyddo cerdded a beicio ac yn galluogi'r cyhoedd i deithio mewn ffyrdd mwy llesol yn gyffredinol.

Ond cododd AC y Ceidwadwyr Byron Davies ei bryderon nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.

Galwodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott ar y llywodraeth i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi'u cysylltu â'i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw.

Tra bod AC Plaid Cymru Jocelyn Davies wedi codi ei phryderon ynglyn â'r gwrthdaro gyda pherchnogion tir lle bu'r llwybrau'n croesi.

Gofynnodd felly i'r gweinidog a fyddai'r ddeddfwriaeth yn rhoi unrhyw hawliau i gerddwyr a beicwyr.

Cafodd y cynnig wedi'i ddiwygio ei gymeradwyo.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific