Dywedodd y Gweinidog Busnes ac Arloesedd Edwina Hart wrth ACau fod angen iddyn nhw siarad o blaid y Gemau Olympaidd wrth iddi ateb cwestiynau ar fanteision y digwyddiad i Gymru ar 9 Mai 2012.
Gobaith Ms Hart yw y bydd y dorch Olympaidd yn teithio trwy Gymru yn tanio diddordeb yn y digwyddiad.
Wrth edrych ar y cyfleon busnes posib esboniodd: "Os ddaw â dim ond 12 o bobl sy'n fuddsoddwyr mawr mewn i'r DU ac maen nhw'n hoffi'r hyn maen nhw'n ei weld bydd hynny o fudd i Gymru."
Roedd y Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott AC yn feirniadol o "record siomedig" Cymru wrth ennill contractau Olympaidd gan nodi taw dim ond 0.4% o'r arian ar gael sydd wedi dod i Gymru er bod Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys y digwyddiad cyntaf un.
Dywedodd Mohammad Asghar, AC yn Ne Ddwyrain Cymru fod y ffigwr yn "dangos yn glir fethiant llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd masnachol sy'n cael eu cynnig gan Gemau Olympaidd Llundain gan siomi busnesau Cymraeg."
Ymbiliodd y gweinidog serch hynny ar i'r ACau gael agwedd bositif tuag ar y gemau a chefnogi timau "arbennig" y DU.
Fe wnaeth Ms Hutt hefyd ateb cwestiynau ar bynciau yn cynnwys grantiau i fusnesau, rhanbarthau twf ac effaith y dirwasgiad ar Gymru.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend