Page last updated at 17:37 GMT, Wednesday, 2 May 2012 18:37 UK

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar dreth cyngor

Rheolaeth ariannol a gaiff ei gyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol sydd wedi'u galluogi i gadw'r codiadau treth cyngor yn isel dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, yn ôl eu cydweithwyr yn y cynulliad.

Dywedodd AC De Orllewin Cymru Peter Black, ar 2 Mai 2012, fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mai treth cyngor yw un o'r trethi mwyaf annheg mewn cymdeithas ac eu bod nhw o blaid treth sy'n adlewyrchu gallu pobl i'w dalu.

Aeth yn ei flaen i ganmol record y Democratiaid Rhyddfrydol am gydweithio gyda phleidiau eraill, rhywbeth y gwnaeth yr AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Rhodri Glyn Thomas ei ddiolch am wneud.

Ychwanegodd Mr Thomas fod Mr Black yn amlwg wedi cael trafferth meddwl am beth sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol i'w gynnig i bobl Cymru.

Dywedodd AC De Clwyd Ken Skates ei fod yn bryderus ynglŷn â sut y byddai'r ddadl yn cael ei gweld y tu allan i'r siambr, cyn mynd yn ei flaen i ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol drwy ddweud lle unwaith roeddent yn "orennau balch" maent yn awr yn "griw o lemonau."

Wrth gloi'r ddadl fe wnaeth Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams amddiffyn record ei phlaid mewn awdurdodau lleol Cymru gydag arddeliad.

Fe gafodd y cynnig ei wrthod.

Oherwydd nam technegol nid yw'r fideo Cymraeg ar gael ar gyfer yr eitem hon

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific