Page last updated at 16:55 GMT, Wednesday, 2 May 2012 17:55 UK

Dadl y Ceidwadwyr ar dreth cyngor

Yn ôl AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, mae anghenion yn "amrywio o awdurdod lleol i awdurdod lleol", a dylai hynny gael ei ystyried wrth ystyried y posibiliad o rewi treth y cyngor.

Gwnaeth y sylwadau wrth i aelodau'r blaid Geidwadol arwain dadl ar dreth y cyngor ar 2 Mai 2012.

Cynigodd Janet Finch-Saunders AC i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y byddai rhewi treth y cyngor yn fanteisiol i economi'r wlad a galwodd yr AC am dryloywder, atebolrwydd ac effeithlonrwydd llwyr mewn gwariant cyhoeddus.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Byron Davies, dylai'r arian sy'n dod o dreth gyngor aros ym mhocedi'r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt eu gwario "fel y mynnent" wrth i "Lafur brofi tro ar ôl tro na allant reoli cyllidebau".

Fe gwestiynodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black pam nad yw'r Ceidwadwyr yn gweithredu eu cynigion yn y cynghorau maent yn eu rhedeg ar draws Cymru.

Byddai rhewi treth y cyngor "o fudd i'r cyfoethog yn eu plastai yn fwy nag unrhyw un arall" yn ôl yr AC Llafur, Mike Hedges.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific