Fe wnaeth y Gweinidog Addysg Leighton Andrews gyflwyno bil sy'n bwriadu cryfhau safonau ysgolion ar draws Cymru ar 24 Ebrill 2012.
Yn ôl y gweinidog bydd y bil yn lleihau biwrocratiaeth a chymhlethdod.
Nod y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion yw ei gwneud yn haws i ysgolion i ymyrryd a gwella ysgolion trwy gyflwyno canllawiau statudol.
Dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd yn galluogi mudiadau ysgolion i wneud penderfyniadau ar lefel leol.
Bydd y bil yn sicrhau hawliau i rieni i alw cyfarfodydd gyda chyrff llywodraethu ysgolion; bydd hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol osod prisau prydau ysgol.
Fe gafodd y bil ei groesawi'n drawsbleidiol ar draws y siambr.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend