Page last updated at 10:41 GMT, Monday, 23 April 2012 11:41 UK

Datganiad ar ymgysylltiad cyflogwyr â sgiliau

Bu'r Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert yn gwneud datganiad ar ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â sgiliau ar 24 Ebrill 2012.

Yn ystod y datganiad fe amlinellodd y gweinidog ei flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau yng Nghymru.

Yn ôl Mr Cuthbert mae'r llywodraeth am sicrhau fod pobl ifanc yn cyflawni eu potensial trwy ddatblygu eu sgiliau, rhinweddau a chymwysterau.

Mynodd y gweinidog y byddai'n hybu buddsoddi mewn sgiliau er mwyn creu swyddi a chynhyrchiant.

Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn cefnogi swyddi cynaliadwy i bobl ddifreintiedig ac yn ddi-waith.

Wrth gloi, dywedodd Mr Cuthbert y byddai'r llywodraeth yn sicrhau bod modd iysgolion a cholegau ddarparu sgiliau a hyfforddiant ar gyfer gwlad ddwyieithog fodern.

Dywedodd: "Bydd adolygiad y cymwysterau ar gyfer pobl 14-19 yn ein helpu ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd o ddysgu ac ennill cymhwysterau sy'n cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt hygrededd gyda chyflogwyr."

Croesawodd Llefarydd Sgiliau'r Ceidwadwyr Nick Ramsay y datganiad a galwodd am adroddiad cyson ar y mater fel y gallai hyn gael ei graffu gan ACau.

Lleisiodd llefarydd Plaid Cymru Simon Thomas ei gefnogaeth a dywedodd fod y strategaeth genedlaethol yn bwysig i'r sector sgiliau ar draws Cymru.

Dywedodd Eluned Parrott AC fod angen i'r llywodraeth ysbrydoli a hysbysu pobl ifanc am y sgiliau a'r cymwysterau sydd ar gael iddynt.

SEE ALSO

Story Tools

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific