Galwodd AC Aberconwy Janet Finch-Saunders ar lywodraeth Cymru i ystyried ystod o fesurau, o ffilmio cyfarfodydd cyngor i refferenda ar dreth y cyngor, cyllido ysgolion yn uniongyrchol a datganoli cynllunio, er mwyn "rhoi pŵer yn ôl i gymunedau lleol".
Yn y Ddadl Geidwadol wythnosol ar 28 Mawrth 2012, fe wnaeth AC Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Angela Burns atgyfnerthu'r neges hon, gan ddadlau mai'r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau a chael mynediad i wybodaeth sy'n grymuso pobl.
Wnaeth Ms Burns hefyd dynnu sylw at yr angen i gael mwy o fenywod, pobl ifanc a phobl anabl wedi'u cynrychioli ar lefel gymunedol, ac i'r llywodraeth osod y nod i lywodraeth leol ei ddilyn, ac yn ei thro, i lywodraeth leol osod y nod i gynghorau cymunedol.
Fe wnaeth yr AC Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black annog y llywodraeth i ystyried cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy fel arf ddiwygio effeithiol, ac fe alwodd yr AC Ceidwadol Suzy Davies ar y llywodraeth i ystyried mentrau cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau.
Wnaeth AC Canol Caerdydd Jenny Rathbone alw mesur y Ceidwadwyr yn gybolfa a dadlodd na fyddai pobl yn debygol o ymddiddori os nad oedden nhw'n ymddiried yn eu cynghorau.
Wrth ymateb, fe bwysleisiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant AC bwysigrwydd tryloywder yn ogystal â grymuso, a dadlodd gan fod cynghorwyr yn cael eu hethol i gynhyrchu refeniw yn lleol, ei fod yn iawn, felly, i awdurdodau lleol bennu treth y cyngor.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend