Page last updated at 12:39 GMT, Tuesday, 20 March 2012

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ni fydd targed 2012 ar gyfer safonau tai yn cael ei gyrraedd yn ôl Gareth Jones, swyddog o Lywodraeth Cymru.

Yn rhoi tystiolaeth ar 20 Mawrth 2012 i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), dywedodd Mr Jones fod gwelliannau wedi eu cyflawni ond ei fod yn amlwg o adroddiad Prif Archwilydd Cyffredinol Cymru fod tipyn o waith i'w wneud o hyd.

Ychwanegodd Mr Jones fod angen system gryfach a safon fwy trwyadl er budd tenantiaid.

Yn ymuno â Mr Jones, dywedodd Kath Palmer o adran dai'r llywodraeth fod angen cynyddu darpariaeth yn ogystal â gwella tai cymdeithasol.

Eglurodd Ms Palmer y gall y toriadau diweddaraf beri tŵf yn nifer y digartref sydd yn bryder i'r llywodraeth.

Gofynnodd AC Llafur Jenny Rathbone pa gynnydd a wnaed wrth wneud tai yn fwy ynni effeithlon o ystyried y pryder fod rhai tenantiaid yn amharod i droi'r gwres ymlaen rhag iddynt dderbyn biliau uchel.

Dywedodd Ms Palmer nad oedd un safon euraidd a bod effeithlonrwydd ynni yn anodd i'w gyflawni mewn hen dai, ac ychwanegodd bod safonau effeithlonrwydd uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

Cafodd SATC ei gyflwyno gan lywodraeth Cymru yn 2002 er mwyn helpu gwella safonau tai cymdeithasol.

SATC yw'r safon ofynnol ar gyfer cartrefi, sy'n cynnwys elfennau craidd sy'n fwy heriol na rhaglenni yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific