Page last updated at 19:11 GMT, Wednesday, 21 March 2012

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol alw ar lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd gyda phrosiectau sy'n creu gwelliannau go iawn, parhaus.

Yn y ddadl ar 21 Mawrth 2012, bu AC Canol De Cymru Eluned Parrott yn dadlau fod "ein gwlad yn dlawd ac yn mynd yn dlotach".

Fe fynodd AC Arfon Alun Ffred Jones ei fod yn afrealistig a gwastraffus i greu strategaeth ar gyfer un rhan o'r genedl pan fod strategaeth economaidd ar gyfer Cymru gyfan eisoes yn bodoli.

Fe wnaeth AC Gogledd Cymru Aled Roberts alw am fwy o gydbwysedd rhwng arian sy'n cael ei fuddsoddi yn y sector breifat i gymharu â'r sector gyhoeddus, tra bod AC Gorllewin De Cymru Byron Davies yn honni fod arian wedi'i "wastraffu" ar brosiectau tymor byr.

Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Alun Davies AC fod economi Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi dioddef degawdau o ddirywiad strwythurol y byddai'n anodd ei ddad-wneud mewn pedair neu bum mlynedd.

Fe gadarnhaodd Mr Davies fod y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'r economi a dywedodd bod ymgynghoriad busnes penodol yn cael ei lansio wythnos nesaf i edrych ar sut mae'r llywodraeth yn gallu cyfoethogi ymwneud y gymuned fusnes.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific