Page last updated at 17:37 GMT, Wednesday, 21 March 2012

Dadl y Ceidwadwyr ar gyllido llywodraeth leol

Mae AC Gorllewin De Cymru Suzy Davies wedi galw ar y gweinidog llywodraeth leol i ystyried cyhoeddi canllawiau i ganiatáu ffilmio mewn cyfarfodydd cyngor er mwyn gwella tryloywder.

Yn ystod y ddadl ar 21 Mawrth 2012, fe wnaeth y Ceidwadwyr hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cyfryngau cymdeithasol megis Twitter i fod yn fwy agored, a galw ar gynghorau i gyhoeddi eu gwariant ar-lein.

Fe nododd yr AC Llafur Mike Hedges fod mwy o botensial i benderfyniadau cyngor gael eu hadrodd ac fe gytunodd AC Plaid Cymru Llyr Huws Griffiths fod dadl i'w chael o ran cyhoeddi gwybodaeth, ond roedd yn erbyn mwy o fiwrocratiaeth i gynghorau.

Fe wnaeth AC Gorllewin De Cymru Peter Black ddadlau yn erbyn cynnal refferendwm ar y mater ac roedd yr AC Llafur Jenny Rathbone o blaid cyflwyno gwybodaeth i bobl mewn ffordd ddealladwy, ystyrlon.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific